NEWYDDION

Newyddion

Rhagfyr 2008

Mr Meredith Phillips (Prifathro) yn ymddeol ar ol 24 o flynyddoedd fel pennaeth Ysgol Beca.

Rhagfyr 2008

Bu disgyblion Ysgol Beca yn cynnal taith gerdded noddedig mewn gwisg ffansi yn ddiweddar i godi arian i Ty Hafan. Codwyd y swm o £534.00 tuag at y mudiad. Yn y llun gwelir Mr. Eurfyl Lewis – sydd ei hun wedi codi arian tuag at Ty Hafan yn y gorffennol.

Rhagfyr 2008

Roedd hi'n fraint ac yn anrhydedd i gôr Ysgol Beca gael ei gwahodd i ganu mewn gwasanaeth yn y Cynulliad, Caerdydd. Daeth y gwahoddiad drwy Mrs Janet Williams (Marchgwyn) sydd wedi sefydlu elusen “Missing Wales ”.

Tachwedd 2008

Gweler Mrs Catrin Stevens gyda rhai o ddisgyblion blwyddyn 6 yn dilyn gweithdy a drefnwyd gan Menter Iaith Sir Gaerfyrddin.

Hydref 2008

Gweler cor yr ysgol a bu'n canu mewn cyngerdd yn Nantyffin a drefnwyd gan Aelwyd Ffynnonwen. Roeddent dan arweiniad Mrs Helen Thomas.

Hydref 2008

Ar yr 21fed o Hydref bu disgyblion blwyddyn 5 yr ysgol yn cymeryd rhan mewn cystadleuthau a drefnwyd gan 4 o ddisgyblion blwyddyn 13. Roedd y disgyblion wedi trefnu y diwrnod fel rhan o'i cwrs Hamdden(Lefel A).

Hydref 2008

Yn ogystal a chynnig gwersi trwmped a ffidil, mae'r ysgol nawr yn derbyn gwasanaeth Mr. Joel Rees i roi gwersi offer taro i'r disgyblion. Gweler llun o Angharad, Elin, Lowri ac Isla yn mwynhau ymarfer ar y drymiau gyda'u hathro, Mr Joel Rees.

Hydref 2008

Llongyfarchiadau i dîm pêl droed Ysgol Beca a lwyddodd i gyrraedd y rownd gyn derfynnol ym Mhencampwriaeth Pêl Droed yr Urdd (Cylch Clynderwen). Noddwyd y tîm gan Wasanaeth Adeiladu ACORN, Efailwen.

Hydref 2008

Croesawyd aelodau o'r Frigad Dan yn ôl i'r ysgol eleni eto wrth iddynt drafod peryglon tân gyda'r disgyblion.

Gorffennaf 2008

Hefyd gwelwch rhai o'r disgyblion yn dringo i pen ucha'r twr.

 

Gorffennaf 2008

Diwrnod o antur oedd o flaen yr Adran Iau wrth iddynt ymweld â Pharc Antur Morfa ym Mhentywyn. Treuliwyd y diwrnod yn gwneud gweithgareddau saethyddiaeth, dringo, a'r uchafbwynt – cwrs rhwystr mwdlyd! Gwelwch Nia yn ymarfer i ymuno â'r SAS.

Gorffennaf 2008

Buom yn ffodus i gynnal mabolgampau llwyddiannus eleni eto. Bu cystadlu brwd ymhob rhas. Gwelir yn y llun y plant ag enillodd tlysau y bachgen a'r ferch orau o'r Babanod ar Iau – Rosie a Ned Bennett o'r Babanod, gyda Natasha Jiwa- Walji a Joseph Twose o'r Adran Iau.

Mai 2008

Bu grwp o 13 o ddisgyblion blwyddyn 5 a 6 yng Ngwersyll yr Urdd, Llangrannog am wythnos yng nghanol mis Mai. Roeddent o dan ofal Mr.Meredith Phillips.

 

Mai 2008

Yn ystod mis Mai bu 9 o ddisgyblion blwyddyn 5 yn dilyn cwrs Beicio Medrus.

Mai 2008

Mynychodd disgyblion blwyddyn 6 sesiwn “Crucial Crew” ar Faes y Sioe yn Nant y Ci, Caerfyrddin ar 19eg o Fai.

Mai 2008

Gweler ennillwyr gala nofio ysgolion gogledd Sir Benfro.

Mai 2008

Dyma un o ddisgyblion yr ysgol yn gofalu am aderyn ysglyfaethus yn ystod ymweliad y 'Birds of Prey'.

Ebrill 2008

Croesawom ddau blentyn newydd i'r ysgol y tymor yma. Maent wedi ymgartrefu yn hapus i'r Adran Babanod.

Ebrill 2008

Braf oedd derbyn rhodd hael y Cyng. Roy Llewellyn o £1000. Gweler ef yn cyflwyno'r siec i brif swyddogion y Cyngor ysgol. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i greu llwybr i'r gornel natur.

Ebrill 2008

Yn dilyn astudiaeth o'r Celtiaid y tymor diwethaf bu'r adran Iau yn ymweld a Castell Henllys ger Eglwyswrw.

Mai 2007

Celf a chrefft - Yn y llun gweler Hannah Page Harries a ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth Argraffu Blwyddyn 2 ac Iau a Mari Llewellyn a ddaeth yn ail hefyd yn y gystadleuaeth Argraffu Blwyddyn 5 a 6.

Ebrill 2007

Derbyniodd Dosbarth 4 Ysgol Beca wahoddiad wrth y Cynghorydd Roy Llewellyn [Cadeirydd y Cyngor] a Mrs. Rhoswen Llewellyn, i ymweld â Neuadd y Sir, Caerfyrddin ar y 30ain o Ebrill.

Mawrth 2007

Rhaglen “Mama Mia” - Ar yr 28ain o Fawrth teithiodd dosbarth 4 Ysgol Beca i Stiwdio Cwmni teledu Fflic yng Nghaerdydd. Roedd Undeg a Tudur Lewis, Nia ei merch ac Owen ei chefnder, wedi bod yn ddewr iawn i gytuno ymddangos ar raglen Mama Mia.

Mai 2005 - Priodas Miss Catrin James

Daeth nifer o ddisgyblion yr ysgol i Eglwys Aberteifi i ddymuno'n dda iddi. Gobeithio byddant yn cofio mae Mrs Jenkins yw hi ar ol hanner tymor! <<mwy>>

Mai 2005

Y Brodyr Gregory yn ymweld a'r ysgol gyda Gari Gofal ac Eli Eco. Cafodd yr ysgol gyfan sioe i'w gofio. <<mwy>>

Mai 2005

Dau dim rygbi yr ysgol yn cystadlu mewn cystadleuaeth rygbi (Dragonsports). Allan o'r holl dimoedd, tim A yr ysgol oedd yn fuddugol. <<mwy>>

Mai 2005

Deuddeg o ddisgyblion yr ysgol yn mwynhau wythnos yng Ngwersyll yr Urdd, Llangrannog. <<mwy>>

Mai 2005

Disgyblion yr ysgol gyfan yn gwisgo i fyny i ddathlu un cant chwech deg chwech o flynyddoedd ers i iet tollborth Efailwen cael ei thorri yn Nherfysg Beca. Cerddodd disgyblion yr ysgol gyfan o Garnabwth (Cartref Twm) i Gapel Bethel, lle cafodd ei gladdu. <<lluniau fwy>>

Ebrill 2005

Daeth y Parchedig Anne Howells i'r ysgol i gymeryd gwasanaeth boreol. Ei thema oedd bywyd yn yr Affrig. Daeth a nifer o arteffactau i ddangos i'r disgyblion.

Ebrill 2005

Elin Rees a enillodd yr ail wobr yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd am waith gemwaith dan 8 oed.

Mawrth 2005

Disgyblion yr ysgol wedi gwisgo i ddathlu dydd Gwyl Dewi.

Mawrth 2005

Merched blwyddyn 6 yn dechrau ar mosaic Terfysg Beca.

Mawrth 2005

Ymweliad ag Eglwys Llanglydwen. <<mwy>>

Chwefror 2005

Daeth Ms Carlo Briscow o Langlydwen i wneud gweithdy crochenwaith gyda disgyblion yr adran iau. Ar ol tanio'r gwaith aeth y disgyblion lawr i 'Reptile Pottery' i beintio'r gwaith.

Chwefror 2005

Ellie Robinson - enillydd y gadair yn Eisteddfod yr ysgol.

Chwefror 2005

Un o ddisgyblion y babanod yn cael hwyl yn gwneud pancos.

Ionawr 2005

Mr. Paul Williams o 'Acorn Building and Flooring' yn cyflwyno cit pel-droed newydd i'r ysgol.

Tachwedd 2004

Y Parchedig Anne Howells yn ymweld a'r ysgol i gymeryd gwasanaeth boreol. Ei thema oedd gwisgoedd yr Eglwys ar wahanol gyfnodau.

Hydref 2004

Ymweliad Miss Anwen Franics - awdures cyfres llyfrau Siani'r Shetland. Roedd y plant wrth eu bodd yn cyfarfod a Siani, yr anifail hoffus roeddent wedi bod yn darllen am.

Mabolgampau 2004

Rhodri Lewis ac Alicia Lewis - enillwyr tlysau - Y Ferch Orau a'r Bachgen Gorau Mabolgampau 2004.

Gorffennaf 2004

Disgyblion yr ysgol gyfan yn dringo i gopa Foel Drigarn.

Gorffennaf 2004

Disgyblion yr adran iau ar ymweliad a safle hanesyddol Castell Henllys.

Mai 2004

Tim dawnsio gwerin yr ysgol a deithiodd i Sir Fon i gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

Lluniau

i

ddod

GWERSYLLA YN LLANGRANNOG

Bydd disgyblion o'r ysgol yn treulio wythnos yng Ngwersyll Llangran