Ailgylchu Bagiau Plastig
Mae miliynau o fagiau plastig yn cael eu gwastraffu pob dydd ym Mhrydain Fawr. Fel ysgol rydym yn pryderi am hyn ac am geisio gwneud rhywbeth i leihau'r broblem. Danfonwyd llythyr allan i'n rhieni yn gofyn iddynt ddanfon hen fagiau plastig nad oeddent eisiau i mewn i'r ysgol, er mwyn i ni greu pecynnau o 10 bag plastig. Rydym yn dosbarthu'r pecynnau yma i fusnesau lleol er mwyn iddynt eu hail-ddefnyddio.
Dyma Melissa yn trefnu'r bagiau cyn eu dosbarthu i'r siop lleol - Angie's Den!