Rap Eco
Rydyn ni wedi ysgrifennu 'Rap Eco' i'n hatgoffa sut i ofalu am ein byd. Canwyd y Rap yn fyw ar raglen Ray Gravell ar radio Cymru. Roedd wrth ei fodd a dywedodd yn fyw ar y radio pa mor bwysig oedd i ni ofalu am ein byd.
Arhoswch nes bod y RAP yn dechrau chwarae os gwelwch yn dda!
Cofiwch ofalu am ein byd hardd ni,
Mae ein byd hardd ni yn drysor drud!
Taflwch bob sbwriel i mewn i’r bin,
Cadwch yr ysgol yn lân fel pin.
Mae ‘na fin i blastig, mae ‘na fin i bapur,
Rhaid rhoi’r sbwriel yn y bin sy’n gywir.
Trowch bob cyfrifiadur bant,
Fel bod ‘na blaned i blant ein plant.
Rhowch y car yn y garej a bant â ni,
Cerddwch, sgipiwch, rhedwch da chi.
Neidiwch i’r gawod yn hytrach na’r bath,
Peidiwch gwastraffu y dŵr gyda SBLASH!
Gan Flwyddyn 3 a 4.