croeso i ysgol carreg hirfaen
 

Gweithgareddau Allgyrsiol

 
 



















Mae staff yr ysgol yn rhedeg amryw o glybiau all-gyrsiol ar hyd y flwyddyn. Cliciwch ar enw'r Clwb i ddysgu mwy amdano:

Yr Urdd | Y Cor | Clwb Chwaraeon | Clwb Dawnsio

****************************

Yr Urdd

Mae'r Urdd yn cwrdd pob yn ail nos Iau yn ystod tymhorau'r Gaeaf a'r Gwanwyn yn Uned Coedmor. Mae'r gweithgareddau yn dechrau am 3.45pm ac yn gorffen am 4.45pm. Mae'n agored i blant blynyddoedd 2, 3, 4, 5 a 6 Carreg Hirfaen.

Carreg Hirfaen - Enillwyr Chwaraeon Potes yr Urdd.

Rhaglen Hydref 2009

Dyddiad Lleoliad Gweithgaredd
     
     
     
     
     
     
     
     
     
     
     

 

Y Cor

Mae Cor yr ysgol yn cwrdd pob yn ail nos Iau yn ystod tymhorau'r Gaeaf a'r Gwanwyn yn Uned Coedmor. Mae'r ymarferion yn dechrau am 3.45pm ac yn gorffen am 4.30pm. Mae'n agored i blant blynyddoedd 2, 3, 4, 5 a 6 Carreg Hirfaen.

Hyfforddir y plant gan Mrs Elin Jones, Mrs Delyth Hopkins Evans, Alwena Evans a Luned Thomas. Mae'r Cor yn perfformio mewn amrywiaeth o weithgareddau cymdeithasol yn ystod y flwyddyn ac yn cystadlu'n rheolaidd mewn eisteddfodau a'r Wyl Gerdd Dant.

 

Clwb Chwaraeon

Mae'r Clwb Chwaraeon yn cwrdd pob p'nawn dydd Mawrth yn ystod tymhorau'r Gwanwyn a'r Haf tan arweiniad Mrs Fiona Jones. Mae'r gweithgareddau yn cynnwys Chwaraeon y Ddraig, chwaraeon lleiafrifol a chwaraeon poblogaidd fel criced a tennis.

Tim Pel Droed Merched Carreg Hirfaen.

 

Clwb Dawnsio

Mae'r Clwb Dawnsio yn cwrdd pob nos Fercher yn ystod tymhor yr Hydref yn Uned Coedmor. Mae'r ymarferion yn dechrau am 3.45pm ac yn gorffen am 4.30pm. Mae'n agored i blant blynyddoedd 3, 4, 5 a 6 Carreg Hirfaen. Bydd aelodau'r Clwb Dawnsio yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth Ddawns yr Urdd pob Gwanwyn ac mewn cyngherddau talentau lleol. Mae'r ymarferion yn cynnwys Dawnsio Gwerin a Dawnsio Disgo.

Tim Dawnsio Disgo Carreg Hirfaen.