croeso i ysgol carreg hirfaen
 
Llawlyfr Ysgol
 



















Gwybodaeth

Ysgol Gynradd Ffederal yw hon i blant rhwng 4 ac 11 oed. Mae'r ysgol fechan wledig wedi ei lleoli yn Uned Coedmor yng Nghwmann, tua milltir a hanner i'r dwyrain o Llanbedr Pont Steffan.

Gosodir yr ysgol yng nghategori A gan Awdurdod Addysg Sir Gaerfyrddin, golyga hyn ei bod yn cael ei hystyried yn ysgol draddodiadol Gymraeg.

Cynhelir Ysgol Feithrin wirfoddol ar safle Coedmor. Mae hyn yn rhoi dilyniant ac yn sicrhau bod trosglwyddo i ddosbarth derbyn Carreg Hirfaen yn gam hollol naturiol a di-ffwdan i blant bach yr ardal.

********************

DERBYN PLANT | ORIAU YSGOL | GWISG YSGOL | RHEOLAU'R YSGOL | BWLIO | ABSENOLDEB | GOFAL BUGEILIOL | CINIO YSGOL GWEITHGAREDDAU ALLGYRSIOL | GWERSI OFFERYNNOL | GWAITH CARTREF | CYSYLLTIADAU RHIENI | DIOGELWCH | CASGLU PLANT TEITHIAU ADDYSGOL | TAFLEN NEWYDDION | CYSYLLTIADAU CYMDEITHASOL | DULLIAU DYSGU | ADDYSG RHYW | CYDADDOLI | ASESU | ADDYSG ARBENNIG | ADRODDIADAU | TECHNOLEG GWYBODAETH | CYSYLLTIADAU RHYNGWLADOL | CHWARAEON | GWNEUD CWYN

********************

DERBYN PLANT

Derbynnir plant i'r ysgol ar ddechrau'r tymor y maent yn cael eu pedwerydd penblwydd. Gwahoddir rhieni sy'n dymuno danfon eu plant i'r ysgol i gysylltu â'r Prifathro i drefnu ymweliad. Rhoddir cyfle i'r plant newydd dreulio prynhawn yn y dosbarth, ac ar yr un diwrnod trefnir cyfarfod anffurfiol i'r rhieni, er mwyn iddynt dderbyn gwybodaeth am yr ysgol.

 

ORIAU YSGOL

Coedmor

Bore: 8.50am - 12.15pm

Prynhawn: 1.15am - 3.20pm

Gofynnir i rieni annog eu plant i ddod i'r ysgol yn brydlon bob amser. Bydd y plant tan ofal yr athrawon o 8.35am - 3.35pm.

Ni ellir cymryd cyfrifoldeb am y plant sydd yn yr ysgol cyn neu ar ôl yr amserau hyn, heb drefniant ymlaen llaw rhwng yr ysgol a'r rhieni.

   

GWISG YSGOL

Porffor a Turquoise yw lliw gwisg swyddogol yr ysgol. Gellir prynu'r crys polo a'r crys chwys yn yr ysgol am bris rhesymol. Yn ystod tymor yr Haf gall y merched wisgo ffrogiau gingham glas golau. Gellir eu prynu mewn unrhyw siop fawr. Gofynnir i rieni ofalu bod enw'r plentyn ar bob dilledyn. Bydd angen dillad arbennig i nofio, siorts plaen tywyll a chrys gwyn ar gyfer addysg gorfforol a dillad addas ar gyfer chwaraeon.

 

RHEOLAU'R YSGOL    

Disgwylir i'r plant ymddwyn mewn ffordd drefnus a chwrtais bob amser ac anogir hwy i barchu hawliau ac eiddo pobl eraill. Ym Mholisi Disgyblaeth yr ysgol rhoddir pwyslais ar ymddygiad a gweithgareddau da, a gwobrwyir y plant yn unigolion ac fel rhan o'r dosbarth cyfan. Pan geir ymddygiad annerbyniol, gweithredir cosb a fydd yn deg ac yn berthnasol i'r weithred.

(Gweler crynodeb o'r Polisi Disgyblaeth).

Ni chaniateir melysion, gwm cnoi na chreision yn yr ysgol, ond caniateir ffrwythau i'w bwyta yn ystod amser chwarae.

 

BWLIO

Mae bwlio o unrhyw fath, yn gorfforol neu'n eiriol, yn hollol annerbyniol i ni fel ysgol, a gweithredir yn union i ddatrys y broblem. Sylweddolwn hefyd y gall bwlian ddigwydd yn hollol ddiarwybod i'r ysgol a'r rhieni, ac os gwelwn arwyddion o anhapusrwydd neu anfodlonrwydd i ddod i'r ysgol, byddwn yn gwneud ymholiadau pellach. Os oes gennych amheuon bod bwlian yn cymryd lle, cysylltwch yn syth a'r ysgol er mwyn i ni gael delio a'r broblem.

 

ABSENOLDEB

Os bydd eich plentyn yn absennol o'r ysgol, oherwydd afiechyd, apwyntiad meddygol neu unrhyw ddigwyddiad arall, disgwylir i chi roi gwybod y rheswm i'r ysgol trwy lythyr, ffôn, neu nodyn yn y Llyfr Cyswllt. Os na roddir gwybodaeth i'r ysgol cofnodir y plentyn yn absennol heb ganiatâd.

 

GOFAL BUGEILIOL

Yr athrawon dosbarth, tan gyfarwyddyd y Prifathro, sy'n gyfrifol am ofal a datblygiad addysgiadol y plentyn. Cymerir pob gofal posibl i sicrhau diogelwch y plant. Mae aelodau'r staff ar ddyletswydd bob amser chwarae a chyflogir cynorthwywyr i ofalu am y plant tros yr awr ginio.

 

CINIO YSGOL    

Paratoir cinio ysgol i'r plant a gellir ei brynu am #1.75 y dydd.

 

GWEITHGAREDDAU ALLGYRSIOL

Caiff y plant gyfle i ymuno mewn nifer o amrywiol weithgareddau y tu allan i oriau'r ysgol. Cynhelir nifer o glybiau yn ystod y flwyddyn - Clwb Nofio, Clwb Dawns, Clwb Cyfrifiadur, Adran yr Urdd, Clwb Chwaraeon a Cherddorfa.

 

GWERSI OFFERYNNOL

Yn yr Adran Iau rhoddir cyfle i'r plant dderbyn hyfforddiant offerynnol - pres, chwythbrennau, telyn, llinynnol, a recorder - gan ddechrau pan fydd yr athrawon teithiol cerdd yn teimlo bod y plentyn yn abl yn gorfforol ac yn addas yn gerddorol, i dderbyn hyfforddiant. Ceir cyfle i fod yn aelod o gerddorfa'r ysgol a chymryd rhan mewn gweithgareddau cerddorol mewn gwasanaethau a chyngherddau. Mae'n bosib y bydd angen tal rhesymol pob tymor am wersi offerynnol.

 

GWAITH CARTREF

Anogir gwaith cartref trwy'r ysgol fel y gallwch gefnogi a hyrwyddo datblygiad addysgol eich plentyn. Rhoddir llyfr cyswllt i bob plentyn lle cofnodir y gwaith cartref. Gofynnwn i chi arwyddo'r llyfr yn ddyddiol i sicrhau bod y gwaith wedi ei gwblhau. (Gweler amserlen gwaith cartref).

 

CYSYLLTIADAU RHIENI

Mae nifer o agweddau ym mywyd yr ysgol lle mae cefnogaeth a chydweithrediad rhieni yn angenrheidiol. Gobeithiwn weld y plant sy'n dechrau'r ysgol yn sefydlu eu hunain ac yn dod yn aelodau hapus a llwyddiannus o gymdeithas yr ysgol. Os bydd unrhyw broblem ynglyn a'r ysgol gennych, neu os ydych am drafod unrhyw fater, yna cysylltwch a'r Prifathro.

Gwahoddir rhieni i nifer o weithgareddau a gynhelir yn yr ysgol yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys Gwasanaeth Diolchgarwch, Cyngerdd neu Wasaneth Nadolig, Eisteddfod a Mabolgampau.

Cynhelir Nosweithiau Agored fel y gall rhieni weld gwaith eu plant a thrafod eu cynnydd gyda'r athro/athrawes ddosbarth.

Mae Cymdeithas Rhieni, Athrawon a Chyfeillion Carreg Hirfaen hefyd yn trefnu amrywiaeth o weithgareddau codi arian a chyfarfodydd cymdeithasol ac addysgiadol yn ystod y flwyddyn.

 

DIOGELWCH

Tra bo'r plant yn yr ysgol cymerir pob gofal i'w diogelu rhag niwed. Rhoddir triniaeth am fan anafiadau gan aelodau o'r staff, ond os digwydd i'ch plentyn gael damwain ddifrifol cysylltir a chi yn syth fel y gall gael y driniaeth feddygol addas yn y feddygfa neu'r ysbyty. (Gweler Taflen ar Ddiogelwch)

Rhoddir gwersi ar ddiogelwch o fewn yr ysgol gan gynnwys cymorth cyntaf, diogelwch ar y ffordd, y cartref a'r amgylchfyd yn gyffredinol.

Mae plant y dosbarthiadau hyn yn derbyn gwersi beicio gan Swyddog Diogelwch y Sir.

 

CASGLU PLANT O'R YSGOL

Gofynnir i'r rhieni sy'n parcio y tu allan i'r ysgol ar ddiwedd dydd i ddod i gwrdd a'u plant wrth gat yr ysgol, er mwyn osgoi damweiniau ar y ffordd.

Dylir nodi nad yw'r Corff Llywodraethol yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw ddamwain a all ddigwydd y tu allan i gat ysgol yn ystod y cyfnod yma.

 

TEITHIAU ADDYSGOL

Yn ystod y flwyddyn trefnir nifer o ymweliadau addysgol, sy'n ymwneud a'r gwaith thema o fewn y dosbarth. Gofynnir i rieni wneud cyfraniadau gwirfoddol tuag at gost y cludiant.

 

TAFLEN NEWYDDION

Cynhyrchir taflen newyddion ‘Carreg Ateb' yn ystod pob tymor, ac ynddo ceir newyddion am yr ysgol, digwyddiadau a gwaith a baratowyd gan y disgyblion.

 

CYSYLLTIADAU CYMDEITHASOL

Yn ystod y flwyddyn cymerir rhan mewn llawer o weithgareddau cymdeithasol yn yr ardal a gwneir casgliadau tuag at nifer o achosion da yn lleol a chenedlaethol. Gwneir cysylltiadau a nifer o fusnesau lleol, tan y Cynllun Partneriaeth Addysg a Busnes, gan roi nifer o brofiadau gwerthfawr i'r plant.

 

DULLIAU DYSGU

Caiff y plant eu dysgu trwy gyfuniad o ddull pynciol a thema. Paratoir gwaith pob tymor mewn cyfres o gyfarfodydd staff tan arweiniad y prifathro a'r arweinwyr cwricwlwm. Dysgir y thema a'r pynciau unigol o fewn strwythur amserlen er mwyn rhoi y sylw priodol i ddatblygu pob agwedd o'r Cwricwlwm Cenedlaethol.

 

ADDYSG RHYW

Ni chyflwynir Addysg Rhyw fel pwnc ffurfiol yn yr ysgol ond ceisiwn ymdrin a'r pwnc ac unrhyw gwestiynau neu broblemau mewn ffordd sensitif a gofalus o fewn pynciau eraill megis Gwyddoniaeth, Addysg Grefyddol ac Addysg Iechyd.

O fewn y Cwrs Addysg Iechyd ceir uned o waith ar gyfer Blwyddyn 6 sy'n ymdrin a ‘Thyfu a Newid' ac wrth ei weithredu gwahoddir pobl broffesiynol - nyrs, meddyg - i mewn i siarad a thrafod gyda'r plant. Ein bwriad yw hybu datblygiad personnol a chymdeithasol y plant a'u paratoi ar gyfer y dyfodol, i fod yn aelodau cyfrifol o fewn cymdeithas.

 

CYDADDOLI

Mae lle pwysig i‘r Gwasanaeth Boreol o fewn yr ysgol. Yn ystod y cyfnodau hyn daw'r plant a'r staff ynghyd i gydaddoli a rhannu profiadau. Rhoddir cyfle i'r plant i gyfrannu yn y gwasanaeth yn unigolion, grwp neu ddosbarth, a cheir cyfnodau hefyd i longyfarch y plant am eu gweithrediadau da. Byddwn yn cydaddoli naill ai o fewn y dosbarth, yn unedau neu fel ysgol gyfan, a disgwylir i'r plant i barchu a gwerthfawrogi'r cyfnodau yma.

 

ADDYSG ARBENNIG

Cymerir gofal i sicrhau bod pob plentyn yn cael y cyfle i ddatblygu yn ol ei oed a'i allu. Ceir cyfnodau ym mywyd pob plentyn lle bydd, am resymau amrywiol, yn cael anhawsterau a fydd yn amharu ar ei ddatblygiad. Gwneir arolwg yn flynyddol, trwy roi profion ac asesu'r gwaith, i weld pa blant sydd angen addysg arbennig.

Yn y mwyafrif o achosion paratoir rhaglen unigol i'w gweithredu o fewn y dosbarth. Pan gyflwynir gwersi i'r dosbarth cyfan, gosodir gwaith dilynol sydd wedi ei wahaniaethu yn ol gallu unigol y plentyn.

Gyda phroblemau dwys caiff y plant gyfle i weithio mewn grwpiau bychain tan ofal y Cydgysylltydd Addysg Arbennig, er mwyn ceisio goresgyn y gwendidau penodol.

Os y teimlwch bod eich plentyn yn cael anhawsterau dysgu cysylltwch a'r prifathro i drafod y mater, ac os bydd angen rhoddir y gefnogaeth angenrheidiol iddo.

 

ASESU

Asesir y plant yn barhaol trwy-

•  farcio gwaith yn fanwl a chyson.

•  osod profion ar ddiwedd uned o waith.

•  gofnodi cynnydd yn unol a thargedau cyrhaeddiad y Cwricwlwm Cenedlaethol.

Hefyd caiff y plant 7oed (CA1) ac 11 oed (CA2) eu Asesu yn Stadudol i ddarganfod eu lefelau cyrhaeddiad ym Mathemateg, Iaith a Gwyddoniaeth.

 

ADRODDIADAU

Cynhelir Nosweithiau rhieni yn nhymor y Gwanwyn a'r Haf, ac ar ddiwedd y flwyddyn addysgol bydd rhieni yn derbyn adroddiad ffurfiol, ysgrifenedig yn nodi cynnydd y plentyn.

 

TECHNOLEG GWYBODAETH

Gwneir defnydd helaeth ac amrywiol o gyfrifiaduron trwy'r ysgol er mwyn cefnogi a chadarnhau'r hyn a ddysgir o fewn y cwricwlwm ehangach.

O'r oedran ieuengaf caiff y plant brofiad o ddefnyddio rhaglenni prosesu geiriau i greu a golygu darnau amrywiol o ysgrifennu. Datblygir ar y profiadau cynnar hyn ar hyd yr ystod oedran nes bod y plant yn ddigon hyderus i gynllunio, paratoi, golygu a chynhyrchu cylchgronau yn ymwneud a'u gwaith yn yr ysgol.

Yn ogystal a hyn cyflwynir y plant i raglenni graffeg, rheoli a chronfa ddata er mwyn cyfoethogi'r addysg a ddarperir yn yr ysgol hon. Datblygir cysylltiadau ‘E bost' ag ysgolion eraill trwy ddefnyddio'r rhwydwaith, a gwneir defnydd o wybodaeth a data i gyfoethogi nifer o bynciau'r cwricwlwm.

Mae gan yr ysgol dudalen we sydd yn cael ei diweddaru yn rheolaidd ac sydd yn frith o gyfraniadau gan y disgyblion.

 

CYSYLLTIADAU RHYNGWLADOL

Fel rhan o'n gwaith Eco-Ysgol rydym yn sefydlu cysylltiadau ag ysgolion mewn gwledydd tramor, fel y caiff y plant brofiad o gyfnewid gwybodaeth, newyddion a syniadau trwy ddanfon llythyron, e-bost, fideo a disgiau i'w cyfoedion yn y gwahanol wledydd. Y nod yw ehangu gwybodaeth y plant o'r byd ehangach.

 

CHWARAEON

 

Mae chwaraeon yn rhan bwysig o Gynllun Addysg Gorfforol yr ysgol. Anelir at ddatblygu sgiliau cyffredinol a phenodol mewn amryw o feysydd gan gynnwys pel droed, rygbi, pel rwyd, hoci, criced a rownderi. Ceir cyfnodau wythnosol i ddatblygu'r sgiliau a rhoddir cyfle rheolaidd i'w hymarfer wrth gystadlu yn erbyn timau o ysgolion eraill. Anogir y plant i gymeryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau a gynhelir gan glybiau a mudiadau lleol y tu allan i oriau'r ysgol.

Mae'r Prifathro yn awyddus i dderbyn unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud ag iechyd a lles y plentyn/plant mewn perthynas ag addysg gorfforol a chwaraeon (yn enwedig gweithgareddau egnïol neu gystadleuol). Gofynnir am y wybodaeth hon ar ffurf datganiad oddi wrth feddyg y plentyn/plant.

 

TREFNIADAU AR GYFER GWNEUD CWYNION

Yn unol a deddf Addysg 1988, dilynir y drefn ganlynol ar gyfer ymdrin a chwynion ffurfiol. Dylid yn gyntaf drafod gyda'r athro dosbarth a'r prifathro. Os na cheir ateb boddhaol rhoddir cyfle i'r rhieni fynd a'r gwyn i'r Corff Llywodraethol. Os deil y rhieni yn anfodlon gellir dwyn y mater i sylw'r Awdurdod Addysg Lleol. Ceisiwn wneud pob ymdrech i ddatrys cwynion o fewn yr ysgol.

***************************************