Llawlyfr yr Ysgol

Up

 

 

 

Math o ysgol.     Derbyn plant.    Oriau ysgol.    Gwisg ysgol.  

  Rheolau'r ysgol.  Bwlio.  Absenoldeb.  Gofal bugeiliol. 

  Cinio     Gweithgareddau allgyrsiol   Adroddiadau.  

Chwaraeon  Gwersi-offerynnol. Gwaith cartref.   

Cysylltiadau rhieni.     Diogelwch. Asesu       

Parcio ar iard yr ysgol.   Ymweliadau

Taflen newyddion    Cysylltiadau cymdeithasol.  

Y Cwrs Addysg  Dulliau dysgu.     Addysg Ryw.    

Cydaddoli.  Addysg Arbennig.  

Technoleg Gwybodaeth.   Cysylltiadau  Rhyngwladol.    

Trefniadau ar gyfer gwneud cwynion.

Math o ysgol

Ysgol Gynradd gymysg yw hon i blant rhwng 4 ac 11 oed. Agorwyd yr ysgol ym 1971 i gynnal 250 o blant. Saif yr ysgol uwchben pentref Llandysul gyferbyn ag Ysgol Ddwyieithog Dyffryn Teifi. Trefnir y dosbarthiadau yn ôl oed, gydag adran y Plant Bach ar y llawr isaf ac Adran y Plant Iau ar y llawr uchaf. 

Derbyn plant.

Derbynnir plant i'r ysgol ar ddechrau'r tymor sy'n dilyn eu pedwerydd penblwydd. Gwahoddir rhieni sy'n dymuno danfon eu plant i'r ysgol i gysylltu â'r Prifathro i drefnu ymweliad. Rhoddir cyfle i'r plant newydd dreulio prynhawn yn y dosbarth, ac ar yr un diwrnod trefnir cyfarfod anffurfiol i'r rhieni, er mwyn iddynt dderbyn gwybodaeth am yr ysgol.  

Oriau ysgol.

Bore: 9.00 - 12.00  Prynhawn: 1.00 - 3.20.

Gofynnir i rieni annog eu plant i ddod i'r ysgol yn brydlon bob amser. Bydd y plant tan ofal yr athrawon o 8.45 - 3.35, ac ni ellir cymryd cyfrifoldeb am y plant sydd yn yr ysgol cyn neu ar ôl yr amserau hyn, heb drefniant ymlaen llaw rhwng yr ysgol â'r rhieni. O safbwynt diogelwch bydd y prif ddrws yn cael ei gloi yn ystod sesiynau dosbarth.  

 Gwisg ysgol.

Llwyd a marwn yw lliw gwisg swyddogol yr ysgol. Gellir  prynu'r crys chwys yn yr ysgol am bris rhesymol. Yn ystod tymor yr Haf gall y merched wisgo ffrogiau gingham pinc. Gellir eu prynu mewn unrhyw siop fawr. Gofynnir i rieni ofalu bod enw'r plentyn ar bob dilledyn. Bydd angen dillad arbennig i nofio, siorts plaen tywyll a chrys gwyn ar gyfer addysg gorfforol a dillad addas ar gyfer chwaraeon.  

 Rheolau'r ysgol.

Disgwylir i'r plant ymddwyn mewn ffordd drefnus a chwrtais bob amser ac anogir hwy i barchu hawliau ac eiddo pobl eraill. Ym Mholisi Disgyblaeth yr ysgol rhoddir pwyslais ar  ymddygiad a gweithgareddau da, a gwobrwyir y plant yn unigolion ac fel rhan o'r dosbarth cyfan. Pan geir ymddygiad annerbyniol, gweithredir cosb a fydd yn deg ac yn berthnasol i'r weithred. (Gweler crynodeb o'r Polisi Disgyblaeth.).Ni chaniateir melysion, gwm cnoi na chreision yn yr ysgol, ond caniateir ffrwythau i'w bwyta yn ystod amser chwarae.  

 Bwlio.

Mae bwlio o unrhyw fath, yn gorfforol neu’n eiriol,  yn hollol annerbyniol i ni fel ysgol, a gweithredir yn union i ddatrys y broblem. Sylweddolwn hefyd y gall bwlian ddigwydd yn hollol ddiarwybod i’r ysgol a’r rhieni, ac os gwelwn arwyddion o anhapusrwydd neu anfodlonrwydd  gan blentyn i ddod i’r ysgol, byddwn yn gwneud ymholiadau pellach.  Os oes gennych amheuon bod bwlian yn cymryd lle, cysylltwch yn syth â’r ysgol er mwyn i ni gael delio â’r broblem.  

 Absenoldeb.  

Os bydd eich plentyn yn absennol o'r ysgol, oherwydd afiechyd, apwyntiad meddygol neu unrhyw ddigwyddiad arall, disgwylir i chi egluro'r rheswm i'r ysgol trwy lythyr neu ffôn. Os na roddir gwybodaeth i'r ysgol cofnodir y plentyn yn absennol heb ganiatâd.  

Gofal bugeiliol.  

Yr athrawon dosbarth, tan gyfarwyddid y Prifathro, sy'n gyfrifol am ofal a datblygiad addysgiadol y plentyn. Cymerir pob gofal posibl i sicrhau diogelwch y plant tra byddant yn yr ysgol. Mae aelodau’r  staff ar ddyletswydd bob amser chwarae a chyflogir cynorthwywyr i ofalu am y plant dros yr awr ginio.  

 Cinio ysgol.

Paratoir cinio yng nghegin yr ysgol a gellir ei gael am bris rhesymol.  

 Gweithgareddau allgyrsiol.

Caiff y plant gyfle i ymuno mewn sawl math o weithgareddau y tu allan i oriau'r ysgol. Cynhelir nifer o glybiau - Clwb Gwyddonwyr Ifanc, Clwb Cyfrifiadur, Dawns, Adran yr Urdd, Clwb Chwaraeon a Cherddorfa.  

 Gwersi offerynnol.

Yn yr Adran Iau rhoddir cyfle i'r plant dderbyn hyfforddiant offerynnol - prês, chwythbrennau, telyn, llinynnol, gitâr a recorder- gan ddechrau pan fydd yr athrawon teithiol cerdd yn teimlo bod y plentyn yn abl yn gorfforol ac yn addas yn  gerddorol, i dderbyn hyfforddiant. Ceir cyfle i fod yn aelod o gerddorfa'r ysgol a chymryd rhan mewn gweithgareddau cerddorol mewn gwasanaethau a chyngherddau. Codir tâl rhesymol bob tymor am wersi offerynnol.  

  Gwaith cartref

Anogir gwaith cartref drwy'r ysgol fel y gallwch gefnogi a hyrwyddo datblygiad addysgol eich plentyn. Rhoddir llyfr cyswllt i bob plentyn lle cofnodir y gwaith cartref. Gofynnwn i chi arwyddo'r llyfr yn ddyddiol i sicrhau bod y gwaith wedi ei gwblhau. (Gweler amserlen gwaith cartref)  

  Cysylltiadau rhieni.

Mae nifer o agweddau ym mywyd yr ysgol lle mae cefnogaeth a chydweithrediad rhieni yn angenrheidiol. Gobeithiwn weld y plant sy'n dechrau'r ysgol yn sefydlu eu hunain ac yn dod yn aelodau hapus a llwyddiannus o gymdeithas yr ysgol. Os bydd unrhyw broblem ynglyn â'r ysgol gennych, neu os ydych am drafod unrhyw fater, cysylltwch â'r Prifathro.

Gwahoddir rhieni i nifer o weithgareddau a gynhelir yn yr ysgol yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys Cyngerdd neu Wasanaeth Nadolig a Mabolgampau. Cynhelir Nosweithiau Agored fel y gall rhieni weld gwaith eu plant a thrafod eu cynnydd gyda'r athro/athrawes ddosbarth.

Mae Cymdeithas Rhieni, Athrawon a Chyfeillion yr ysgol hefyd yn trefnu gweithgareddau i godi arian a chyfarfodydd cymdeithasol ac addysgiadol.  

Diogelwch.

Tra bo'r plant yn yr ysgol cymerir pob gofal i'w diogelu rhag niwed. Rhoddir triniaeth am fân anafiadau gan aelodau o’r staff, ond os digwydd i'ch plentyn gael damwain ddifrifol  cysylltir â chi yn syth fel y gall gael y driniaeth feddygol addas yn y feddygfa neu’r ysbyty. Rhoddir gwersi ar ddiogelwch o fewn yr ysgol gan gynnwys diogelwch ar y ffordd, y cartref a'r amgylchfyd yn gyffredinol. Mae plant y dosbarthiadau hyn yn derbyn gwersi beicio gan Swyddog Diogelwch y Sir ac hefyd yn cymryd rhan mewn Cwis Diogelwch ar y Ffordd.  

Parcio ar iard yr ysgol.

O safbwynt diogelwch cyflwynir cynllun parcio ar iard yr ysgol. Agorir gatiau'r ysgol am 3.05  i adael ceir i barcio ar yr iard. Mae'r gatiau yn cael eu cau am 3.20 a'u hail-agor pan fydd pob plentyn wedi gadael yr iard. Disgwylir i'r ceir aros nes agorir y gatiau gan aelod o'r staff. Gofynnir hefyd i'r rhieni sy'n parcio y tu allan i ddod i gwrdd â'u plant wrth gât yr ysgol, er mwyn osgoi damweiniau ar y ffordd.

Dylir nodi nad yw'r Corff Llywodraethol yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw ddamwain a all ddigwydd ar iard yr ysgol yn y cyfnod yma.

Ymweliadau

Yn ystod y flwyddyn trefnir nifer o ymweliadau addysgol, sy'n ymwneud â'r gwaith thema o fewn y dosbarth. Gofynnir i rieni wneud cyfraniadau gwirfoddol tuag at gost y cludiant.  

  Taflen newyddion.

Cynhyrchir taflen newyddion ar ddiwedd pob tymor, ac ynddo ceir newyddion am yr ysgol, digwyddiadau ac enghreifftiau o waith themau y dosbarthiadau.  

  Cysylltiadau cymdeithasol.

Yn ystod y flwyddyn cymerir rhan mewn llawer o weithgareddau cymdeithasol yn y pentref a gwneir casgliadau tuag at nifer o achosion da yn lleol a chenedlaethol.  Gwneir cysylltiadau â nifer o fusnesau lleol, o dan y Cynllun Partneriaeth Addysg a Busnes, gan roi  nifer o brofiadau gwerthfawr i'r plant.  

Y Cwrs Addysg

.Amcanion Cyffredinol.

1.Darparu amgylchedd hapus a fydd yn meithrin gwerth priodol y plentyn fel unigolyn.

2.Darparu profiadau dysgu a fydd yn hyrwyddo datblygiad y plentyn yn gymdeithasol, emosiynol, moesol, ysbrydol, corfforol a deallusol.

3.Annog arferion da mewn dysgu, a chreu yr agwedd gywir at waith a fydd yn sail i ddatblygiad y plentyn yn y dyfodol.

4.Rhoi syniad am werthoedd moesol i'r plant a chreu'r ymwybyddiaeth ynddynt o anghenion pobl arall.  

Dulliau dysgu.

Caiff y plant eu dysgu trwy gyfuniad o ddull pynciol a thema.  Paratoir gwaith pob tymor mewn cyfres o gyfarfodydd staff tan arweiniad y prifathro a'r arweinwyr cwricwlwm.  Dysgir y thema a’r pynciau unigol o fewn strwythur amserlen er mwyn rhoi'r sylw priodol i ddatblygu pob agwedd o’r Cwricwlwm Cenedlaethol.  

  Addysg Rhyw.

Ni chyflwynir Addysg Rhyw fel pwnc ffurfiol yn yr ysgol ond ceisiwn ymdrin â’r pwnc ac unrhyw gwestiynau neu broblemau mewn ffordd sensitif a gofalus o fewn pynciau eraill megis Gwyddoniaeth, Addysg Grefyddol ac Addysg Iechyd. O fewn y Cwrs Addysg Iechyd ceir uned o waith ar gyfer Blynyddoedd 5 a 6 sy’n ymdrin â ‘Thyfu a Newid’ ac wrth ei weithredu gwahoddir pobl broffesiynol  - nyrs, meddyg - i mewn i siarad ac i drafod gyda’r plant. Ein bwriad yw hybu datblygiad cyffredinol y plant a’u paratoi ar gyfer y dyfodol, i fod yn aelodau cyfrifol o fewn cymdeithas.  

  Cydaddoli.

Mae lle pwysig i'r Gwasanaeth Boreol o fewn yr ysgol. Yn ystod y cyfnodau hyn daw plant a staff yr ysgol ynghyd i gydaddoli a rhannu profiadau. Rhoddir cyfle i’r plant i gyfrannu yn y gwasanaeth yn unigolion, grwp neu ddosbarth, a cheir cyfnodau hefyd i longyfarch y plant am eu gweithrediadau da. Byddwn yn cydaddoli naill ai o fewn y dosbarth, yn adrannau neu fel ysgol gyfan, a disgwylir i’r plant  barchu a gwerthfawrogi’r cyfnodau yma.  

  Addysg Arbennig.

Cymerir gofal i sicrhau bod pob plentyn yn cael y cyfle i ddatblygu yn ôl ei oed a'i allu. Ceir cyfnodau ym mywyd pob plentyn lle bydd, am resymau amrywiol, yn cael anawsterau a fydd yn amharu ar ei ddatblygiad. Gwneir arolwg yn flynyddol, trwy roi profion ac asesu'r gwaith, i weld pa blant sydd angen addysg arbennig. Yn y mwyafrif o achosion paratoir rhaglen unigol i'w gweithredu o fewn y dosbarth. Pan gyflwynir gwersi i’r dosbarth cyfan, gosodir gwaith dilynol sydd wedi ei wahaniaethu yn ôl gallu unigol y plentyn. Gyda phroblemau dwys caiff y plant gyfle i weithio mewn grwpiau bychain tan ofal y Cydgysylltydd Addysg Arbennig, er mwyn ceisio goresgyn y gwendidau penodol. Os y teimlwch bod eich plentyn yn cael anawsterau dysgu cysylltwch â'r prifathro i drafod y mater, ac os bydd angen rhoddir y gefnogaeth angenrheidiol iddo.  

  Asesu.

Asesir y plant yn barhaol trwy-

(a) farcio gwaith yn fanwl a chyson.

(b) osod profion ar ddiwedd uned o waith.

(c) gofnodi cynnydd yn unol â thargedau cyrhaeddiad y Cwricwlwm Cenedlaethol. Caiff y plant 7oed (CA1) Asesiad Athro  a phlant 11 oed (CA2)  eu profi drwy Dasgau Asesu Stadudol yn unol â Deddf Addysg 1988, i ddarganfod lefelau cyrhaeddiad ym Mathemateg, Iaith a Gwyddoniaeth.   

  Adroddiadau.

Cynhelir nosweithiau rhieni yn nhymor y Gwanwyn neu’r Haf, ac ar ddiwedd y flwyddyn addysgol bydd rhieni yn derbyn adroddiad ffurfiol, ysgrifenedig yn nodi cynnydd y plentyn

 

  Technoleg Gwybodaeth.  

Gwneir defnydd helaeth ac amrywiol o gyfrifiaduron drwy'r ysgol er mwyn cefnogi a chadarnhau'r hyn a ddysgir o fewn y cwricwlwm ehangach. O'r oedran ieuengaf caiff y plant brofiad o ddefnyddio rhaglenni prosesu geiriau i greu a golygu darnau amrywiol o ysgrifennu. Datblygir ar y profiadau cynnar hyn ar hyd yr ystod oedran nes bod y plant yn ddigon hyderus i gynllunio, paratoi, golygu a chynhyrchu cylchgronau yn ymwneud â'u gwaith yn yr ysgol.Yn ogystal â hyn cyflwynir y plant i raglenni graffeg, rheoli a chronfa ddata er mwyn cyfoethogi’r addysg a ddarperir yn yr ysgol hon. Datblygir cysylltiadau ‘E bost’ ag ysgolion eraill trwy ddefnyddio'r rhwydwaith, a gwneir defnydd o wybodaeth a data i gyfoethogi nifer o bynciau’r cwricwlwm.  

  Cysylltiadau Rhyngwladol.  

Sefydlwyd nifer o gysylltiadau ag ysgolion mewn gwledydd tramor, fel y caiff y plant brofiad o gyfnewid gwybodaeth, newyddion a syniadau trwy ddanfon llythyron, fideo a disgiau i'w cyfoedion yn y gwahanol wledydd. Ffurfiwyd cysylltiadau ag ysgolion mewn pedair gwlad -  Gweler y dudalen cysylltiadau.

                                

Chwaraeon.

Mae chwaraeon yn rhan bwysig o Gynllun Addysg Gorfforol yr ysgol. Anelir at ddatblygu sgiliau cyffredinol a phenodol mewn amryw o feysydd gan gynnwys pêl droed, rygbi, pêl rwyd, hoci, criced a rownderi. Ceir cyfnodau wythnosol i ddatblygu'r sgiliau a rhoddir cyfle rheolaidd i'w hymarfer wrth gystadlu yn erbyn timau o ysgolion eraill. Anogir y plant i gymeryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau a gynhelir gan glybiau a mudiadau lleol y tu allan i oriau'r ysgol.  

  Trefniadau ar gyfer gwneud cwynion.

Yn unol â Deddf Addysg 1988, dilynir y drefn ganlynol ar gyfer ymdrin â chwynion ffurfiol. Dylid yn gyntaf drafod gyda’r athro dosbarth a’r prifathro. Os na cheir ateb boddhaol rhoddir cyfle i’r rhieni fynd â’r gwyn i’r Corff Llywodraethol. Os deil y rhieni yn anfodlon gellir dwyn y mater i sylw’r Awdurdod Addysg Lleol. Ceisiwn wneud pob ymdrech i ddatrys cwynion o fewn yr ysgol.