|
Cyflwyniad.
Yn unol â disgwyliadau uchel y gymdeithas, disgwylir i ysgolion osod a
chymell safonau da o ran ymddygiad.
Mae ymddygiad da yn angenrheidiol ar gyfer dysgu ac addysgu effeithiol.
Ceisia'r ysgol osod ffiniau rhwng ymddygiad derbyniol ac annerbyniol,
dathlygu patrwm o wobrwyo a chosb, a sefydlu perthynas adeiladol o fewn y
gymuned.
Dylai’r plant, rhieni a'r staff fod yn ymwybodol o'r hyn a ystyrir yn
ymddygiad annerbyniol yn yr ysgol- rhegi, ymladd, bwlian, diffyg parch tuag at
bobl ac eiddo, torri rheolau'r ysgol...
Amcanion yr ysgol
Bwriadwn fel ysgol, osod a chynnal safonau uchel o ymddygiad
drwy:
-ganmol a gwobrwyo
-berthynas agos rhwng yr athrawon, staff a'r plant
-ddysgu ac addysgu effeithiol
-weithredu cosb pan fo'r angen.
Defnyddir yr amcanion y cytunwyd arnynt, i greu agwedd
bositif tuag at yr ysgol a'i chymuned ac hefyd i hyrwyddo yrnddygiad da.
Dylai pawb sy'n ymwneud â'r ysgol anelu at -
* greu amgylchedd HAPUS
* WEITHIO hyd eithaf eu gallu
* ddangos PARCH tuag at bobl ac eiddo
* OFALU am ei gilydd.
Gwobrwyo.
Credwn fod y disgyblion yn ymddwyn ac yn gweithio'n well pan
fydd athrawon ac eraill yn canmol a gwobrwyo eu Ilwyddiannau ac yn pwysleisio
eu potensial yn hytrach na chanolbwyntio ar eu diffygion a'u methiannau.
Rhoddir canmoliaeth yn ffurfiol ac anffurfiol - o fewn y
dosbarth, yn ystod y gwasanaeth boreol, ar ffurf llythyr neu sylwadau yn llyfr
personol y plentyn.
Mae'r ysgol wedi mabwysiadu cynllun sy'n gwobrwyo
dosbarthiadau ac unigolion am eu gwaith.
Cosbau
Er mor bositif a gwreiddiol, ni all yr un ysgol ddileu
problemau disgyblaeth. Cosbir ymddygiad annerbyniol fel a ganlyn:
- cerydd gan yr athro / athrawes
- cadw i mewn yn ystod amser chwarae
- gwaith ychwanegol
- gwaith cymunedol o fewn yr ysgol e.e. glanhau a chasglu sbwriel..
Os yw'r ymddygiad annerbyniol yn parhau, cysylltir â’r rhieni ar ffurf
llythyr neu alwad ffôn fel y gellir trafod a delio â'r problemau yn syth.
|