Y Ddolen Ddysgu

Home
Up
Pwrpas y Ddolen Ddysgu
Posibiliadau i'r dyfodol
Manylion y dechnoleg
Ffeil ffeithiau ysgolion

Mae Ceredigion yn sir wledig, heb boblogaeth uchel.  Mae dros hanner o’i 76 ysgol gynradd yn ysgolion sydd â llai na hanner cant o ddisgyblion.  Er mwyn sicrhau a gwella ar y safonau uchel sydd yn y sir yn barod, mae’r Awdurdod Addysg wedi mabwysiadu polisi o:

    

·     Apwyntio prifathrawon newydd i ardaloedd yn hytrach nag i adeiladau ysgol penodol;

·     Grwpio ysgolion cynradd ac uwchradd at ei gilydd er mwyn cynllunio a chynnig addysg ddatblygol, ddi-dor;

·     Hybu addysg gydol oes trwy ddefnyddio adnoddau addysgol er defnydd y gymuned gyfan.

Mae’r dechnoleg newydd yn cynnig dimensiwn ychwanegol, a all drawsnewid addysgu a dysgu i ddisgyblion o bob oed yn yr ardaloedd gwledig hyn.  Mae’r syniadaeth hyn eisioes ar waith o fewn y pedair ysgol sy’n gwneud “Y Ddolen Ddysgu”.  Mae profiadau addysgiadol a chymdeithasol y disgyblion yn cael eu cyfoethogi, ac mae’r pwysau cwricwlaidd a gweinyddol sydd ar staff yn cael ei ostwng.    Yn hanfodol i’r broses hyn, mae’r pentrefi lleol wedi cadw gafael ar “eu hysgolion” fel ffocws i’w cymunedau.

  Roger Williams

Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyngor Sir Ceredigion