|
Y
Pennaeth
|
Croeso i Ysgol Llangain Rydym wedi ymrwymo i gynnig addysg gyffrous ac eang i'r disgyblion. Mae'r Ysgol yn ceisio creu awyrgylch hapus a chyfeillgar. Mae'r pwyslais ar helpu pob plentyn i ddatblygu ei allu yn llawn. Mae'n nod bwysig i gefnogi pob plentyn i ddatblygu ei hunan barch, hunan hyder a pharch am anghenion eraill. Mae'r staff ynghyd
â'r corff llywodraethol a'r rhieni yn cynnig yr awyrgylch gorau
bosib i'r holl ddisgyblion. |
| Mrs A
Jones BAdd,/BEd,CPCP,/NPQH
|
|
![]() |
|
|
Mae'r Ysgol yn un "Categori A" yn unol a pholisi'r AALl. Yn unol â hyn mae'r addysg yn y blynyddoedd cynnar ac yng Nghyfnod allweddol 1 (i fyny at 7 oed) drwy gyfrwng y Gymraeg. Yng Nghyfnod Allweddol 2 dysgir Cymraeg a Saesneg fel pynciau unigol ac yn ogystal defnyddir y ddwy iaith i weithio yn y pynciau eraill. Y nod yw bod y plant yn gwbl ddwyieithog erbyn eu bod yn gadael yr Ysgol. Defnyddir yr iaith Gymraeg drwy gydol y dydd fel iaith gyfathrebu a gweinyddu. Ystyrir cefndir y
plentyn, yn enwedig pan yn dechrau dysgu'r iaith. Bydd plant ifanc yn
dod i siarad yr iaith yn gyflym ac yn naturiol. Caiff ddisgyblion sydd
yn dod i fewn i'r Ysgol fel disgybl hyn gyfle i fynd i Uned Iaith Bro
Myrddin fel dysgwyr. |
|