Dyma stori ddosbarth am hanes Arthur

Hanes Brenin Arthur

Amser maith yn ôl yng Nghymru, roedd y Brenin Arthur a'i Farchogion yn rheoli Cymru. Roedd Arthur a'i farchogion yn ymladd mewn brwydrau yn erbyn y Saeson. Roedden nhw'n ennill bob tro ond unwaith roedd Arthur wedi cael ei glwyfo. Collodd marchogion Arthur y frwydr ac fe fuon nhw i gyd farw ond am Arthur a Bedwyr.

 

Roedd Arthur eisiau i Bedwyr daflu ei gleddyf i'r dwr ond doedd Bedwyr ddim eisiau. Pan roddodd Arthur y cleddyf i Bedwyr edrychodd ef yn siomedig arno. Pan welodd Bedwyr y carn aur, y perlau disglair a'r gemau yn fflachio ar y cleddyf doedd Bedwyr ddim moyn taflu Caledfwlch i'r llyn.

 

Felly, achos doedd Bedwyr ddim eisiau taflu'r cleddyf i'r dwr fe roddodd e'r cleddyf yn yr hesg ar fin y dwr.Aeth yn ôl at Arthur a gofynnodd y brenin

"Deflaist ti'r cleddyf mewn i'r llyn?"

"Do, taflais i fe yn y llyn!"

Ond doedd Bedwyr ddim wedi ei daflu i'r llyn roedd wedi rhoi Caledfwlch yn yr hesg. Dywedodd Arthur

"Rwyt ti'n dweud celwydd."

 

Wrth fin y dwr roedd Bedwyr yn aros yn ofnus iawn. Doedd e ddim eisiau taflu Caledfwlch i'r dwr.

Felly,achos doedd Bedwyr ddim eisiau taflu'r cleddyf i'r dwr. Fe roddodd e'r cleddyf yn yr hesg ar fin yr dwr.

Dwedodd Bedwyr"gwelais donnau bach Arthur".

Edrychodd Bedwyr ar y cleddyf mawr hardd a meddyliodd e am funud. Os bydda i'n taflu'r cleddyf i'r dwr byddai neb yn cofio'r stori. Cuddiodd Bedwyr y cleddyf ac aeth nôl at Arthur.

Aeth Bedwyr lawr i'r llyn unwaith eto a tynnodd e y cleddyf mas o'r hesg. Caeodd ei lygaid a taflodd e y cleddyf i ganol y llyn. Daeth llaw mas o'r llyn a cydiodd y cleddyf. Dechreuodd y llaw fynd rownd. Aeth y llaw rownd tair o weithiau ac wedyn mynd a Caledfwlch lawr i'r dwfn.

 

Yn ôl i Cwaithau/Back to Projects