
















Darnau o waith y dosbarth ar gymharu ardaloedd o fewn Cymru
Ardal wledig yng Ngorllewin Cymru yw Ceredigion. Yno, mae'r bryniau gwyrddion yn hardd ac mae'r arfordier yn berffaith.
Mae'r sir yu denu llawer iawn o ymwelwyr yn yr haf oherwydd gallant dreulio amser ar lan y mor, yn marchogaeth, cerdded yr arofrdir a gwylio'r dolffiniaid yn y bae.
Mae'r bobl leol yn dibynnu ar swyddi megis ffermio defaid a gwartheg a thyfu cnydau megis tatws, moron, bresych ac erfin. Does dim llawer o waith cynhyrchu yn yr ardal ac mae llawer o bobl wedi colli eu swyddi yn cynhyrchu dillad yn Llanbed ac Abertiefi yn ddiweddar. Mae'r Cyngor Sir yn cyflogi llawer o athrawon a phobl mewn swyddfeydd. Yn ddiweddar, oherwydd fod llawer o dai yn cael eu hadeiladu yn y sir mae gwaith ar gael i seiri, masiynnau, plymwyr a thrydanwyr.
Oherwydd fod y sir mor brydferth mae llawer o bobl yn ymddeol i'r ardal. Un problem sy'n dilyn hyn yw fod llaewr o bobl sy'n methu siarad Cymraeg yn dod i'r ardal ac mae llai o bobl yn siarad Cymraeg yn y sir.
Yn Aberystwyth mae lleoedd fel y Llyfrgell Genedlaethol, Ysbyty Bronglais, Cyngor Llyfrau Cymru a'r Brifysgol yn cynnig mwy o swyddi yng Ngheredigion.
Ardal fynyddig yw Eryri. Oherwydd hyn mae llawer o bobl yn ymweld â'r lle er mwyn cael dringo a gwnedu gweithgareddau awyr agored megis canwio, hwylio a cherdded mynyddoedd.
Mae'r arfordir prydferth yn denu llawer hefyd. Weithiau, mae'r mynyddoedd yn ymestyn lawer i'r môr. Dibynna llawer o bobl ar dwristiaeth i wneud bywoliaeth.
Oherwydd fod yr ardal yn fynyddig, ffermio defaid sy'n digwydd yno fwyaf. Erbyn hyn, mae llawer o'r ffermwyr yn gorfod chwilio gwaith arall oherwydd does dim digon o arian wrth ffermio.
Mae Eryri yng ngogledd orllewin Cymru ac felly
yn bell o gyfandir Ewrop. Does dim llawer o ffatrioedd yn yr ardal
ac mae'r ardal yn dibynnu ar yr un math o swyddi â Chereidigion.
e.e. ysbyty Gwynedd, athrawon, gweithwyr swyddfeydd, adeiladwyr
a.y.y.b.