PROSPECTWS

Ysgol gynradd siriol, naturiol ddwyieithog yw hon ar gyrion pentref Pennant, ar y ffordd o Giliau Aeron i Lanon.Mae ynddi ddwy ystafell ddosbarth, swyddfa a chegin fechan ac mae buarth bychan ger yr ysgol. Nid oes llain werdd ac nid oes toiledau mewnol.Ysgol wledig Fabanod/Iau ddwythieithog i blant rhwng 4 ac 11 mlwydd oed yw hi.Mae nifer y plant yn amrywio rhwng 25 a 35.

CYFEIRIAD

Ysgol Gymunedol Pennant
Pennant
Llanon
Ceredigion
SY23 5PA
Ffon-(01545)570661
Ffacs-(01545)571405
E-bost-staff.pennant@ysgolccc.org.uk
Safle We-www.ysgolccc.org.uk/pennant

STAFF

Prifathro : Mr.G.R.Davies

Athrawes Babanod : Mrs.J.George

Athro/Athrawes 0.05 : Mrs. N. Lewis

Cynorthwywraig Mrs.M.R.Lloyd
a gofal :

Cynorthwywraig : Mrs.J.Jones

ATHRAWON TEITHIOL

Anghenion Arbennig : Mr.I.Rees / Mrs.J.Davies

Cymraeg : Mrs. M. Rees

Offerynnol : Amryw (Fliwt/Ffidl/Gitar/Utgorn)

STAFF ATEGOL

Prydau Ysgol : Mrs.G.Lionel

Goruchwylwraig Mrs.M.R.Lloyd
Canol Dydd/
Arian Cinio :

Glanhawraig : C. Hawthorne

LLYWODRAETHWYR

Mae Corff Llywodraethwyr yr ysgol yn cwrdd yn rheolaidd i drafod materion sy'n ymwneud a chynnal a chodi safonau o fewn yr ysgol.

Cadeirydd y corff yw Mr.S.Walker

ORIAU'R YSGOL
Babanod : 9:00yb-12:00yp
1:00yp-3:30yp

Plant Hyn :9:00yb-12:00yp
1:00yp-3:30yp

Mae'n bwysig fod y plant yn mynychu'r ysgol yn rheolaidd ac ar amser.Os yw eich plentyn yn absennol fe fydd angen galwad ffôn a llythyr yn egluro'r absenoldeb.

TREFNIADAETH

Mae'r plant yn cael eu dysgu yn ôl eu hoedran mewn dosbarthiadau cymysg eu gallu.

Dosbarth Babanod : Plant 4-7 oed (Cyfnod Allweddol 1)
Dosbarth Iau : Plant 7-11 oed (Cyfnod Allweddol 2)

Trefnir y ddau ddosbarth mewn grwpiau cymysg o ran gallu. Derbynnir plant y tymor sy'n dilyn eu penblywdd yn 4 oed. Mae pob athro/athrawes yn gyfrifol am ddatblygiad cyffredinol ei ddosbarth/dosbarth. Dysgir rhai agweddau o'r gwaith yn bynciol er mwyn atgyfnerthu sgiliau mewn meysydd arbennig e.e. Mathemateg.Gofynnir i rieni darpar ddisgyblion drefnu cyfweliad â'r Prifathro ymlaen llaw. Llenwir ffurflen dderbyn yng ngwydd y rhieni.

DIOGELWCH

Mae gan yr ysgol furiau i'r cefn a ffens uchel i'r blaen. Un mynediad sydd i'r campws ac mae'r glwyd yn gadarn a chryf. Rhaid i bob ymwelydd adrodd i aelod o staff wrth gyrraedd a gwisgo bathodyn swyddogol os yw'n berthnasol. Yn anffodus, mae'n rhaid i'r disgyblion groesi'r iard ar ben eu hunain wrth fynd i'r toiledau yn ystod y dydd. Mae un aelod o staff yn gofalu am y plant ar yr iard bob amser chwarae ac amser cinio. Cynhelir dril tân bob tymor ac adroddir hyn i'r llywodraethwyr.

EICH PLENTYN A'R YSGOL

Rydym yn falch i gael eich plentyn gyda ni yn yr ysgol. Rydym am i bob plentyn deimlo'n hapus ac yn ddiogel yn nheulu'r ysgol. Rydym hefyd am i'ch plentyn wneud cymaint o gynnydd ag sy'n bosibl. Bydd pob aelod o'r staff yn gwneud ei orau glas er lles pob plentyn yn ddiwahan. Os fydd eich plentyn yn anhapus ynglyn â rhywbeth, yna rhowch wybod i ni ar unwaith.

CATEGORI'R YSGOL

Mae'r ysgol wedi ei phenodi o fewn Categori A Polisi Iaith Ceredigion. Nod Polisi Iaith yr Awdurdod yw addysgu disgyblion i fedru bod yn gwbl ddwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg erbyn gadael yr ysgol gynradd. Yn ôl y polisi Iaith mewn Ysgolion Categori A yng Ngheredigion, y Gymraeg yw prif gyfrwng bywyd a gwaith y plant yng Nghyfnod Allweddol 1 er mwyn iddynt gael sylfaen gadarn yn yr iaith. Cyflwynir Saesneg yn statudol wrth i'r plant drosglwyddo o'r adran babanod i'r adran iau.

DERBYN PLANT

Mae'r ysgol yn cydymffurfio'n llwyr gyda pholisi'r AALl.Derbynnir disgyblion os ydynt yn cael eu penblwydd yn ystod y tymor cyn y dyddiadau isod :
Ionawr 1af
Ebrill 1af
Medi 1af
Mae ffurflenni derbyn ar gael o'r ysgol.Dylid anfon y ffurflenni i'r AALl cyn i'ch plentyn/plant ddechrau'r ysgol.

CASGLU DATA

Mae'r ysgol yn casglu gwybodaeth am ddisgyblion a'u rhieni / gwarcheidwaid wrth i'r disgyblion gael eu derbyn i'r ysgol ac at ddibenion penodol yn ystod y flwyddyn ysgol. Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y data a gesglir yn gywir ac yn ddiogel. Mae gan unigolion hawliau penodol i gael gweld y wybodaeth bersonol a gedwir amdanynt ac mae'r rhain wedi'u hamlinellu yn ein Hysbysiad Prosesu Teg. Rhoddir copi o'r daflen hon i bob rhiant pan fydd y disgybl yn cael ei dderbyn i'r ysgol am y tro cyntaf.

AMCANION YR YSGOL

I roi sylw unigol i bob plentyn.
I sicrhau fod pob plentyn yn datblygu ac yn gweithio i eithaf ei gallu/allu.
I greu awyrgylch deuluol hapus mewn amgylchedd ddeniadol.
I sicrhau fod yna berthnas agos rhwng y cartref a'r ysgol.
I feithryn meddyliau bywiog ac ymchwilgar gan gynnwys y gallu i holi a dadlau'n rhesymegol ac ymroi i dasgau.Dylent hefyd ddatblygu medrau corfforol.
I ddatblygu dealltwriaeth,gwybodaeth a medrau sy'n berthnasol i fywyd oedolion a chyflogaeth mewn byd sy'n newid yn gyflym.
I ddefnyddio iaith a rhif yn effeithiol.
I feithryn gwerthoedd moesol, personol, parch at werthoedd crefyddol a goddefarwch at hiliau a chrefyddau eraill.
I ddeall y byd y maent yn byw ynddo a chyd-ddibyniaeth unigolyn, grwpiau a chenhedloedd.
I werthfawrogi cyflawniadau a dyheadau dynol.

DISGYBLAETH A RHEOLAU'R YSGOL

1. O fewn yr ysgol, anogir y plant i barchu aelodau'r staff bob un,eu cyd-ddisgyblion ac eiddo.
2. Ni ddylid byth fynd tu allan i ffiniau'r ysgol heb ganiatâd yr athrawon.
3. Dylid bob amser rhoi ysbwriel mewn biniau.
4. Pan feicir i'r ysgol, ni chaniateir i'r plentyn ddefnyddio'r beic ar faes chwarae'r ysgol.
5. Dylid ysgrifennu enw'r plentyn yn glir ar ei ddillad, yn enwedig cotiau, esgidiau ysgafn ac ar esgidiau glaw.
6. Ni chaniateir bwyta melysion na gwm cnoi tu fewn i ffiniau'r ysgol.
7. Ni ddylid dod â photeli gwydr i'r ysgol.

CYTUNDEB YSGOL

Ceir copi o reolau'r ysgol yn llawlyfr cyswllt y disgyblion sy'n cael ei ddosbarthu ar ddechrau pob blwyddyn addysgiadol. Mae'r llawlyfr yn cynnwys hefyd,gopi o GYTUNDEB YSGOL/DISGYBL/CARTREF. Arwyddir y cytundeb ar unwaith ond os oes rhiant yn pryderu am y cytundeb yna dylid cysylltu â'r Prifathro er mwyn trafod y mater.

Y CWRICWLWM

Mae'r Addysg i blant dan 5 wedi'i ddosbarthu i fewn i 6 maes sy'n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau sylfaenol o fewn iaith, mathemateg a datblygiad personol. Yng Nghyfnod Allweddol 1, gosodir prif sylfaen dysgu. Datblygir y sgiliau hanfodol o gyfathrebu, llythrennedd a rhifedd. Bydd y plant yn dysgu sut i arsylwi, gwrando, ymateb a datblygu fel aelodau gofalgar o'n cymuned. Yng Nghyfnod Allweddol 2 datblygir y sgiliau a nodir uchod ymhellach ond caiff y plant eu hannog i ddatblygu hunan-hyder, annibyniaeth wrth ddysgu a sgiliau uwch mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd.Y mae'r ysgol yn amcanu i ddatblygu y cwricwlwm Cenedlaethol trwy bolisi traws-gwricwaidd ac yn mabwysiadu y dull thematig o gyflwyno lle mae'n bosibl.Mae'r Cwricwlwm yn cynnwys y pynciau craidd sef Mathemateg, Gwyddoniaeth, Cymraeg, Saesneg (Cyfnod Allweddol 2 yn unig) a'r pynciau sylfaenol sef Technoleg Cyfathrebu Gwybodaeth, Technoleg, Hanes, Daearyddiaeth., Cerddoriaeth, Celf, Addysg Gorfforol ac Addysg Grefyddol.

Plant yn dysgu wrth chwarae

SUT I WNEUD ACHWYNIAD

Dylid trafod pob cwyn gyda'r athro/athrawes a'r prifathro yn y lle cyntaf..Gwneir pob ymdrech i ddatrys y mater yn anffurfiol o fewn yr ysgol.Os na fydd hynny'n bosibl, dylid anfon cwyn ysgrifenedig i'r ysgol a bydd y Prifathro yn rhoi gwybod i Gadeirydd y corff Llywodraethol a fydd wedyn yn mynd â'r mater ymhellach.

CAU'R YSGOL YN YSTOD TYWYDD GARW

Gwneir pob ymdrech i gadw'r ysgol ar agor. Os bydd anawsterau fel eira neu dywydd garw iawn a gorfod cau'r ysgol yn gynnar, rhoddir gwybod i'r rhieni a'u cynghori i godi'r plant.

POLISI ABSENOLDEB

Os ydy plentyn yn absennol o'r ysgol mae'n angenrheidiol i'r rhiant/gwarcheidwad anfon nodyn i'r ysgol i egluro'r absenoldeb. Mewn achosion o absenoldeb aml iawn, rhaid i'r Prifathro anfon gwybodaeth i'r Swyddfa Addysg.
Mae ffurflenni ar gael yn yr ysgol i blant sydd yn mynd ar wyliau swyddogol yn ystod amser ysgol.Dylid cwblhau'r ffurflenni hyn cyn cyfnod y gwyliau a'u dychwelyd i'r ysgol.
Mewn achosion pan fydd yn rhaid i rieni/gwarcheidwad fynd â'u plant i glinigau deintyddol neu feddygol, rhyddheir y plant o'r ysgol ar gyfer yr apwyntiad. Gofynnir i rieni/gwarcheidwad beidio cadw plant gartref drwy'r dydd mewn achosion o'r fath os oes modd osgoi hynny.

POLISIAU PYNCIOL

Mae ffeiliau polisiau a chynlluniau gwaith pob pwnc ynghyd â ffeiliau'r Cwricwlwm Cenedlaethol ar gael yn yr ysgol.

IAITH

Cymraeg yw prif gyfrwng bywyd a gwaith yn Nosbarth y Babanod ond bydd athrawon yn gofalu am gynnydd yn Saesneg hefyd. Mae Cymraeg a Saesneg yn cael eu defnyddio gyda'r plant hyn fel y bydd cyfle ganddynt i ddatblygu cymwysterau cyfartal yn y ddwy iaith erbyn y byddant yn gadael yr ysgol gynradd. Gwneir darpariaeth arbennig ar gyfer y disgyblion hynny sy'n hwyr ddyfodiad i ysgolion Ceredigion. Anogir yr hwyr ddyfodiaid i fynychu cyrsiau yn y Ganolfan Iaith leol er mwyn datblygu hyder yn yr iaith. Gwneir darpariaeth arbennig hefyd ar gyfer disgyblion sydd wedi cael eu hasesu yn swyddogol yn rhai sy'n dioddef o anawsterau dysgu.

ADDYSG ARBENNIG

Rhaid cydnabod bod angen sylw arbennig ar ambell blentyn oherwydd anghenion addysgol neu anabledd. Caiff y plentyn yr un cyfle â phawb arall i integreiddio'n llwyr ym mywyd yr ysgol. Gall plentyn sydd ag angen llawer o hyffordiant unigol gael ei grybwyll at wasanaeth addysg arbennig yr awdurdod ar ôl trafod gyda'r rhieni. Caiff yr ysgol wasanaeth athro/athrawes beripatig i helpu plant sydd ag anghenion arbennig.
Mae'n bosibl i'r ysgol dderbyn disgyblion sydd ag anghenion corfforol oherwydd nid oes grisiau o fewn y campws ac mae'r iard yn wastad.Fodd bynnag mae'n ddisgwyliedig bod yr ysgol yn trafod gyda'r AALl cyn derbyn plentyn ag anghenion corfforol er mwyn asesu a yw'r ysgol yn addas gogyfer y plentyn.

POLISI CYSWLLT A RHIENI

Ein gobaith yw y byddwch yn cadw mewn cysylltiad â'r ysgol er mwyn cael gwybodaeth am gynnydd eich plentyn.Cofiwch fod croeso i rieni i'r ysgol bob amser ac oes gennych unrhyw broblem yna peidwch â phetruso rhag cysylltu â'r staff neu'r Prifathro. Mae croeso i ddarpar riant ymweld â'r ysgol ar ôl gwneud y trefniadau angenrheidiol gyda'r Prifathro.

ADDYSG GREFYDDOL

Cynhelir gwasanaeth Cristnogol dair gwaith yr wythnos yn rheolaidd a chynhelir myfyrdod/gwasanaeth Cristnogol byr bob bore.Bydd y gwsanaeth fel rheol o dan ofal y Prifathro ond o bryd i'w gilydd disgwylir i'r plant gymryd rhan trwy ddarllen, canu adrodd neu/a chwarae offeryn. Mae'r ficer yn cymryd un gwasanaeth yr wythnos.Mae'r hawl gennych chi i dynnu eich plentyn/plant allan o'r cyfnodau crefyddol ond disgwylir i chi anfon llythyr swyddogol i'r Prifathro yn esbonio'ch rhesymau.

YMWELIADAU / GWEITHGAREDDAU ALLGYRSIOL

Mae ymweliadau yn cael eu trefnu gan yr athro/athrawes ddosbarth sy'n clymu y rhain wrth thema'r ysgol. Trefnir ymweliad preswyl bob blwyddyn i blant blwyddyn 5 a 6. Mae'r ysgol yn cymryd rhan mewn gweithgareddau Urdd a chylch megis nofio, criced, rownderi, pel droed, pel rwyd, trawsgwlad, chwaraeon potes, mabolgampau ac eisteddfod. Cynhelir clwb Urdd a chlwb cyfrfiaduron i ddisgyblion blwyddyn 2 ar ôl oriau ysgol. Trefnir teithiau diwrnod neu yweliadau addysgol yn rheolaidd, pryd y gofynnir efallai am gyfraniad gwirfoddol.

Disgyblion yn mwynhau y clwb cyfrifiaduron.

GWAITH CARTREF

Gosodir gwaith cartref dair gwaith yr wythnos yng Nghyfnod Allweddol Dau a disgwylir i ddisgyblion ym mlynyddoedd 3, 4, 5,a 6 i wneud un cywaith bob tymor ar bwnc penodol e.e. maes hanesyddol . Disgwylir iddynt hefyd i ddysgu gwaith ar gyfer profion sillafu a thablau rheolaidd. Yn ychwanegol gosodir gwaith unigol penodol i ddisgyblion addysg arbennig. Gosodir gwaith ychwanegol ar gais rhieni ac anogir y disgyblion i ddarllen adref. Mae croeso i bob disgybl fenthyg llyfrau o'r ysgol. Anogir plant yn nosbarth y babanod i fynd â llyfrau darllen adref yn gyson a gosodir gwaith cartref yn rheolaidd yng Nghyfnod Allweddol Un. Dylid nodi bod yr ysgol yn medru disgwyl i rieni dalu am unrhyw adnodd/llyfr sydd yn dychwelyd i'r ysgol mewn cyflwr annerbyniol.

ASESU

Gwneir asesiad parhaol gan athrawon. Asesir disgyblion yn ôl Gwaelodlin y Sir wrth ddechrau'r ysgol ac ym mhynciau craidd y Cwricwlwm Cenedlaethol ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 1 a 2 pan fyddant yn 7 ac 11 oed. Cynhelir noson rieni ddwy waith y flwyddyn (Chwefror/Gorffennaf) a gosodir/adolygir targedau personol gogyfer y plant yn y cyfarfodyd hyn. Anfonir adroddiadau ysgrifenedig at bob rhiant yn flynyddol . Cedwir plygell yn cynnwys enghreifftiau o waith plentyn gyda chofnod o'i ddatblygiad. Asesir gwaith y plant yn rheolaidd a diwygir y blygell yn gyson.

CYFLE CYFARTAL

Hyrwyddir a cheisir sicrhau cyfle cyfartal i bob plentyn heb ystyried anabledd, cefndir ethnig, iaith na chrefydd ble mae'n bosibl ond ar adegau rhaid cydymffurfio â rheolau'r cylch ar bel-rwyd, mabolgampau a.y.y.b.

CYNGOR YSGOL

Mae cyngor disgyblion/athrawon llwyddiannus iawn yn bodoli yn yr ysgol. Bydd y cyngor yn cyfarfod yn rheolaidd ac mae'r cofnodion ar gael i bawb. Etholir y cynrychiolwyr bob blwyddyn. Mae'r cyngor yn lleisio barn y disgyblion ar agweddau o rediad yr ysgol ac yn meithrin ac atgynerthu eu sgiliau dinasyddiaeth a chyfle cyfartal.

ADDYSG RYW

Yn ysgol Pennant ni fydd Addysg Rhyw yn cael ei ddysgu mewn ffordd uniongyrchol ond fe'i cynhwysir yn hytrach yng nghynnwys Cwricwlwm Cenedlaethol yn gyffredinol. Ar y dechrau gall y plant gael y wybodaeth am y gwhaniaethau syml rhwng y ddau ryw, ond dylid gwneud hyn mor naturiol ag y bo modd gan ddibynnu ar sensitifrwydd y plentyn unigol. Bydd rhai plant, hyd yn oed ar lefel ysgol gynradd, yn gwybod ac yn deall mwy na'r disgwyl arferol am atgynhyrchu.Mae gan blant felly agwedd aeddfed at y pwnc. Mewn achosion o'r fath os bydd unrhyw blentyn yn codi'r pwnc, gwell bod yn agored a gonest na chael yr annifyrwch o geisio osgoi'r pwnc neu geisio gwadu gwybodaeth.
* Noder dylai'r rhieni hysbysu'r Prifathro yn ysgrifenedig, os dymunant eithro eu plant o'r trafodaethau a gynhwysir uchod.

GOFAL BUGEILIOL

Y Prifathro sy'n rheoli'r drefniadaeth fewnol, cwrs addysg, rheolaeth a disgybliaeth yr ysgol. Mae'r athro/athrawes yn gyfrifol am les ac addysg ei ddosbarth/dosbarth. Pan fydd y plant yn sâl neu wedi cael damwain hysbysir y rhieni amdani ac os bydd angen aiff un o'r staff ag ef/hi at y meddyg lleol. Ni chaniateir i blentyn adael yr ysgol yn gynnar heb gais oddi wrth y rhieni.
Bydd cyfrifoldeb y prifathro a'r athrawes/athro am y plant yn cychwyn am 8:50 y bore ac yn dod i ben am 3:40 y prynhawn.

POLISI CAMDRIN PLANT

Pan geir tystiolaeth mewn achos o gamdrin plant dyletswydd y prifathro yw dilyn canllawiau yr Awdurdod drwy hysbysu'r adrannau priodol.
Yr oruchwylwraig ganol dydd sy'n gyfrifol am y plant yn ystod yr awr ginio. Mae'r person yma yn adrodd unrhyw bryder yn syth i'r athro â gofal neu i'r prifathro.

DAMWEINIAU A MODDION

Os caiff disgybl ddamwain yn yr ysgol, caiff driniaeth gan yr athrawon (yn ystod yr awr ginio mae'r staff ategol yn gyfrifol am ddiogelwch y disgyblion). Pe bai'r ysgol yn methu dod i gysylltiad â'r rhieni, yna bydd rhaid mynd â'r disgybl i'r ysbyty neu at y meddyg ac yna dod i gyswllt â'r rhieni/gwarcheidwad. Ni chaniateir i athrawon roddi moddion i blant ond trwy gytundeb rhiant. Caniateir i rieni/gwarcheidwad ddod i'r ysgol yn ystod yr awr ginio i roddi moddion i'w plant eu hunain os dymunant.
GWASANAETHAU CEFNOGOL

Mae'r Gwsanaeth Iechyd i Blant Ysgol yn cynnwys: -
a) Archwiliad meddygol.
b) Profion gweld, clywed a siarad.
c) Gwasanaethau nyrsio.

CINIO YSGOL

Mae prydau bwyd yn cael eu darpau a'r arian cinio yn cael ei gasglu bob bore dydd Llun. Os ydych chi o'r farn y gellwch gael prydau rhad,yna gofynnwch am y ffurflenni perthnasol o'r swyddfa Addysg.
Cost y pryd bob dydd ar hyn o bryd yw-

Os oes plant yn dymuno dod â bwyd eu hunain, gallant wneud felly a byddant yn cael eu goruchwylio fel y plant eraill.
Arolygir y prydau bwyd gan yr oruchwylwraig/wr.

ARIAN YR YSGOL

Awgrymwn na ddylai disgyblion ddod ag arian i'r ysgol,heblaw am arian i brynu ffrwyth o'r Siop Ffrwythau amser egwyl (disgyblion Cyfnod Allweddol 2 sy'n gyfrifol am gynnal a rhedeg y siop). Mae'r ffrwyth yn costio rhwng 10c a 30c. Er mwyn sicrhau na fydd colledion gadewir yr arian mewn bagiau neu desgiau. Pan fydd angen i blentyn ddod ag arian cinio, nofio a.y.y.b.dylid dangos enw'r plentyn ar yr amlen, pwrs neu waled.

DILLAD YSGOL

Anogir y plant i wisgo gwisg ysgol sef :-

Merched Bechgyn
Crys chwys yr ysgol Crys chwys yr ysgol
Sgert/Trowsus glas tywyll Trowsus glas tywyll
Crys polo coch (haf) Crys polo coch (haf)

Gellir archebu Crysau chwys a Chrysau polo drwy'r ysgol. Deliwn gyda chwmni 'School Trends' a chewch y pris wrth archebu.

Dyma blant yr ysgol yn arddangos y wisg

ADDYSG GORFFOROL

Dylai disgyblion wisgo dillad addas ar gyfer ymarfer corff a chwaraeon.

Crys-T Siorts Esgidiau chwaraeon addas

Os derbynnir dillad tim gan ddisgyblion dylent eu dychwelyd i'r ysgol ar ôl y gem wedi eu golchi.

*Buasai dangos enw'r disgybl yn eglur ar ei ddillad yn hwyluso newid ar ôl ymarfer corff/nofio. Ni chaniateir i blant wisgo gemwaith yn ystod y gwersi Addysg Gorfforol

 

CHWARAEON

Mae chwaraeon ac Addysg Gorfforol yn bwysig iawn yn yr ysgol. Mae'r plant yn derbyn gwersi wythnosol ac yn cymryd rhan yng nghystadlaethau'r cylch a'r Urdd os yn bosibl bob blwyddyn. Cyn cystadlu, anogir y plant i ymarfer eu sgiliau mewn sesiynau ymarfer. Anogir rhieni i gyfrannu/cynorthwyo yn yr ymarfer ychwanegol. Mae'r plant yn derbyn gwers nofio neu gyfnod yn y ganolfan hamdden bob wythnos. Bws sydd yn mynd â'r plant i Aberaeron ac nid oes tâl am y cludiant. Mae'r plant yn cynrychioli'r ysgol mewn amryw o gystadlaethau cylch a sirol.

GWEITHGAREDDAU'R YSGOL

Dyma rai o weithgareddau'r ysgol

Gymdeithas Chwaraeon Cylch Aeron
Adran yr Urdd (Cwrdd yn yr ysgol o 3:30yp-4:45yp ar ddydd Iau)
Clwb Cyfrifiaduron i blant blwyddyn 2 (Cwrdd yn yr ysgol o 3:30yp-4:30yp ar ddydd Mercher
Cyngherddau ysgol/Panto'r ysgol a gynhelir yn Theatr Felinfach
Gwasanaeth Gwyl Gynhaeaf a gynhelir yn yr eglwys neu'r capel Cystadlaethau Llenyddiaeth / Technoleg
Gweithgareddau cefnogi elusennau
Eisteddfod Gwyl Dewi

Caiff y disgyblion brynu pop a chreision yn y clybiau ar ôl ysgol am 25c.

ADNODDAU'R YSGOL

Mae'r adnoddau canlynol ar gael yn yr ysgol :-

Cyfrifiadur (7)-chwech gyda chysylltiad rhyngrwyd
Prosesyddion Geiriau
Teledu lliw (2)
Fideo (2)
Llungopiwr
Chwaraewyr Casetiau
Camera/Camera digidol
Cyffyrddell
Alweddellau
Bwrdd Gwyn Rhyngweithiol
Amryw adnodd pynciol

GWERSI OFFERYNNOL

Os dengys plentyn ddiddordeb a gallu anogir hi/fe i chwarae offeryn. Mae'r ysgol yn talu am nifer o athrawon arbenigol i ymweld â'r ysgol ond hefyd mae'r ysgol yn codi tal ychwanegol o £30:00 y flwyddyn er mwyn prynu rhagor o amser gogyfer y gwersi. Disgwylir i'r plant ymarfer yn gyson ac asesir eu cynnydd ac ymroddiad yn gyson.

CRONFA'R YSGOL

Mae'r Gymdeithas yn rhedeg Clwb 100 ac yn cwrdd o leiaf unwaith y tymor i drefnu gweithgareddau yn ystod y flywyddyn i godi arian i'r ysgol. Defnyddir yr arian er lles eich plant.Gobeithiwn y byddwch yn cefnogi'r gymdeithas hon yn frwd. Defnyddir cronfa Cymdeithas Cyfeillion yr ysgol at bwrpas yr ysgol ac fe'i harchwilir ar ddiwedd pob blwyddyn ysgol.

Yn ôl i gyflwyniad