|
DATHLU
50 O ADDYSG GYMRAEG
DERI DDATHLU –
YSGOL Y DDERWEN
Braf oedd gweld Theatr
y Lyric yn llawn ar Ragfyr y 7fed a’r 8fed ar gyfer cynhyrchiad Ysgol y
Dderwen – DERI DDATHLU. Roedd y sioe, gyda chast o dros dri chant o blant
yn olrhain hanes Addysg Gymraeg yn nhref Caerfyrddin dros yr hanner canrif
ddiwethaf. Gosodwyd yr hanes mewn cyd-destun diddorol, sef parti penblwydd
cymeriad o’r enw Dewi a oedd yn cyd-ddathlu ei benblwydd yn hanner cant.
Roedd y gynulleidfa wrth ei bodd yn edrych drwy albwm lluniau a ymddangosodd
yn grefftus ar y gefnlen hwnt ac yma. Roedd y band yn gymorth mawr i’r
canu a’r symudiadau. Cafwyd diweddglo bythgofiadwy gyda’r cast cyfan ar
y llwyfan, a Myrddin yn ymddangos o’r gacen benblwydd gan ddarogan dyfodol
disglair a llwyddiannus i Addysg Gymraeg yng Nghaerfyrddin. |
EISTEDDFOD
YR URDD 2005
Cafodd yr ysgol Eisteddfod
lwyddiannus iawn gan gynnwys tair gwobr gyntaf ac un ail wobr yng nghystadlaethau’r
llwyfan.
Fe fuodd y Parti Dawns
Werin dan 12 oed, a’r Ymgom dan 12 oed yn fuddugol yn ogystal â Catrin
Price ar yr unawd chwythbrennau dan 12 oed, ac fe gafodd y Grwp Offerynnol
dan 12 oed yr ail wobr.
Yn ogystal â chystadlaethau
llwyfan bu dau ddisgybl o’r ysgol yn llwyddiannus yn yr adran gwaith cartref
hefyd. Cafodd Ioan Hughes o flwyddyn 6 yr ail wobr am ysgrifennu barddoniaeth
ar y testun ‘Dewin’ ac fe gafodd Tomos Bull o flwyddyn 5 y drydedd wobr
am ysgrifennu darn o ryddiaith ar y testun ‘Mewn hen gastell...’. |
|
Fel rhan o gynllun
‘Menter a Busnes’ Blwyddyn 6 trefnwyd taith gerdded noddedig a chodwyd
y swm enfawr o £1250. O ystyried y pwysigrwydd o feithrin ymwybyddiaeth
ym meddyliau ein disgyblion o anghenion plant ar draws y byd, cyflwynwyd
£625 at apêl UNICEF ‘Plant dros Blant’.
Treuliodd Bardd Plant
Cymru 2004, y Prifardd Tudur Dylan, gyfnod buddiol iawn yng nghwmni disgyblion
Blwyddyn 5 a 6 ar y we. Sbardunwyd dychymyg y plant i gyfansoddi eu cerddi
creadigol. |
|
CYMANFA DATHLU
50 MLYNEDD
Cynhaliwyd Cymanfa Ganu
Dathlu 50 Mlynedd o Addysg Gymraeg yng Nghaerfyrddin ar Ddydd Sul, Mehefin
12fed.
Mwynhaodd y disgyblion,
yr athrawon, y rhieni a chyfeillion yr ysgol cyd-ganu i gyfeiliant band
Geraint Rees, Iestyn Evans ac Adrian Davies ac o dan arweiniad Mrs. Meinir
Richards.
|
Yn Ionawr aeth disgyblion
Blwyddyn 6 i Wersyll Llangrannog ar Gwrs Pontio a drefnwyd gan Ysgol Bro
Myrddin. Cafwyd amser bendigedig yno wrth wneud amrywiaeth o weithgareddau
a chymdeithasu ag eraill.
Ym mis Rhagfyr aeth disgyblion
Blwyddyn 6 am ddiwrnod i Ysgol Bro Myrddin er mwyn defnyddio’r ystafelloedd
cyfrifiaduron i wneud gweithgareddau TGCh megis taenlenni a chreu posteri
hysbysebu. |
|
|