Gwybodaeth  Cyffredinol
Ysgol Gynradd Benodedig Gymraeg yw Ysgol y Dderwen i ddisgyblion o 3 hyd 11 oed sy'n cynnwys Uned Feithrin swyddogol. Cychwynnwyd Addysg Gymraeg yng Nghaerfyrddin yn 1955, ond bu bron i ddeng mlynedd ar hugain fynd heibio cyn i'r ysgol gael ei lleoli mewn adeilad newydd yn 1984.

Saif yr ysgol ar safle eang, braf gyda golygfeydd dros ddyffryn Tywi yn nhre Caerfyrddin. Yr ysgol hon yw'r unig ysgol gynradd Gymraeg yn y dre, a daw 66% o'i disgyblion o'r dre. Ar ddiwedd eu cyfnod yn yr ysgol trosglwyddir y disgyblion i barhau eu haddysg dwyieithog i Ysgol Gyfun Bro Myrddin.

Mae'r ysgol ar dwf oherwydd y cynnydd yn y rhieni sy'n dymuno addysg Gymraeg i'w plant. Erbyn hyn, mae dros 320 o ddisgyblion ar y gofrestr. Derbynir y disgyblion ar ddechrau'r tymor yn dilyn eu 3ydd penblwydd. 

Fe ddosberthir disgyblion yn ôl eu hoedran mewn unedau dysgu cymysg eu gallu, a gwneir pob ymdrech i sicrhau cyfartaledd athro/disgybl teg, gan osgoi gorlwytho dosbarthiadau. Manteisir ar brif feysydd diddordeb/arbenigedd athrawon wrth gyflwyno'r Cwricwlwm Cenedlaethol a darperir athrawes gynnal ar gyfer anghenion addysg arbennig ar y dull integredig.


Adnewyddwyd y Marc Safon yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol am yr eildro. Sefydlwyd partneriaethau â Choleg y Drindod, Ysgol Bro Myrddin ac Asiantaethau Chwaraeon.
Un o flaenoriaethau yr ysgol yng nghyd-destun datblygu ein disgyblion hyd eithaf eu gallu, yw'r ffaith ein bod yn ymhyfrydu yn y cyfle i gynnwys athrawon cerddorol peripatetig yn rhan o'n tim. Daw athrawon peripatetig i ddysgu offerynnau Chwythbrennau, Ffidil, Pres, Soddgrwth, Drymiau a Thelyn.
Rheolir yr ysgol gan Gorff Llywodraethol ei hunan. Mae'r corff yn gyfrifol am sicrhau'r adnoddau gorau i'r ysgol tu fewn i Gynllun Rheolaeth Ysgol (RHYLL).

*Y Llywodraethwyr
*Yn ôl i'r dudalen flaen
*Clwb Gofal Mês y Dderwen